Rydym yn cynnig opsiynau pwrpasol ar gyfer ein hystafelloedd gardd y gellir eu defnyddio fel ystafell sbâr ychwanegol, ystafell ddosbarth, gofod swyddfa, siop/manwerthu neu hyd yn oed bar.
Mae’r fanyleb ar gyfer y cyfleusterau hyn fel a ganlyn:
- Drysau a Ffenestri uPVC
- Cladin “log lap” 19mm / Cladin Cyfansawdd Panel
- Fframio 3” x 2”
- Lloriau tafod a rhigol
- Opsiwn to Pent neu Apex
- To ffelt wedi ei osod gyda tortsh poeth i atal tamprwydd
- Opsiynau ar gael ar gyfer inswleiddio, plymio a gwaith trydanol.
Cysylltwch â ni am ddyfynbris ynglŷn â’ch dimensiynau a’ch manyleb a fyddai’n gweddu eich gofynion.
