Cwmni wedi ei leoli ar Stad Ddiwydiannol Parc Eithin, Nefyn ym Mhen Llŷn yw Siediau Nefyn (Nefyn Sheds).
Mae gan Siediau Nefyn weithdy pwrpasol i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch pren o safon dda. Mae’r holl bren a ddefnyddir yn y cynhyrchion hyn wedi cael ei drin.
Mae gennym weithlu bach ymroddedig sy’n arbenigo mewn dylunio, adeiladu, cyflenwi a gosod siediau o bob maint, ystafelloedd gardd, storfeydd boncyffion, storfeydd beiciau, llochesi anifeiliaid, amrywiaeth o ddodrefn gardd, byrddau, meinciau, planwyr, patios, paneli ffensio a chynnyrch cysylltiedig eraill.
Rydym hefyd yn gweithredu gwasanaeth “Groundworks”, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys gwaith paratoi safleoedd, gwaith draenio, gwaith ail-wynebu, gosod patios, gwaith tirlunio a gwasanaethau ategol eraill.
Cysylltwch â ni gydag unrhyw un o’r gwasanaethau uchod i gael dyfynbris heb unrhyw rhwymedigaethau.
