Ystafelloedd Gardd/Tai ar gyfer yr Haf

Rydym yn cynnig opsiynau pwrpasol ar gyfer ein hystafelloedd gardd y gellir eu defnyddio fel ystafell sbâr ychwanegol, ystafell ddosbarth, gofod swyddfa, siop/manwerthu neu hyd yn oed bar.

Mae’r fanyleb ar gyfer y cyfleusterau hyn fel a ganlyn:

  • Drysau a Ffenestri uPVC
  • Cladin “log lap” 19mm / Cladin Cyfansawdd Panel
  • Fframio 3” x 2”
  • Lloriau tafod a rhigol
  • Opsiwn to Pent neu Apex
  • To ffelt wedi ei osod gyda tortsh poeth i atal tamprwydd
  • Opsiynau ar gael ar gyfer inswleiddio, plymio a gwaith trydanol.

Cysylltwch â ni am ddyfynbris ynglŷn â’ch dimensiynau a’ch manyleb a fyddai’n gweddu eich gofynion.